2 Kings 16

Ahas, brenin Jwda

(2 Cronicl 28:1-27)

1Pan oedd Pecach fab Remaleia wedi bod yn frenin ar Israel am un deg saith o flynyddoedd daeth Ahas fab Jotham yn frenin ar Jwda. 2Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r Arglwydd ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud. 3Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr Arglwydd wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. 4Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.

5Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro. 6(Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)

7Anfonodd Ahas y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti.
16:7 Hebraeg, “dy fab.” Ffordd o ddweud ei fod yn ymostwng i Tiglath-Pileser.
Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.”
8Roedd Ahas hefyd wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria. 9A dyma frenin Asyria yn cytuno ac yn anfon ei fyddin i ymosod ar Syria. Dyma nhw'n concro dinas Damascus, cymryd y bobl yno yn gaethion i Cir b a lladd y brenin Resin.

10Pan aeth y Brenin Ahas i gyfarfod Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn Damascus, dyma fe'n gweld yr allor oedd yno. Anfonodd fodel o'r allor, ei chynllun a'r holl fanylion am sut roedd wedi cael ei gwneud, at Wreia yr offeiriad. 11A dyma Wreia yr offeiriad yn gwneud copi o'r allor oedd yn union fel y manylion anfonodd y brenin Ahas iddo o Damascus. Roedd yr allor yn barod erbyn i'r brenin Ahas gyrraedd yn ôl o Damascus. 12Pan aeth y brenin i weld yr allor dyma fe'n mynd i fyny ati 13a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm o rawn arni. Tywalltodd offrwm o ddiod arni, a sblasio gwaed yr offrwm i gydnabod daioni'r Arglwydd arni. 14Yna dyma fe'n symud yr Allor Bres oedd yn arfer bod o flaen yr Arglwydd. Symudodd hi o du blaen y deml (roedd hi rhwng yr allor newydd a'r cysegr,) a'i gosod ar yr ochr, i'r gogledd o'r allor newydd. 15Yna dyma'r brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin – offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.” 16A dyma Wreia'n gwneud popeth fel roedd y brenin Ahas wedi dweud wrtho.

17Tynnodd y brenin Ahas y fframiau oddi ar y trolïau a symud y dysglau oddi arnyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd "Y Môr" (sef y ddisgyl fawr oedd ar gefn yr ychen pres) a'i gosod ar lwyfan o garreg. 18Wedyn symudodd y llwybr dan do oedd ar gyfer y Saboth, a'r fynedfa allanol oedd wedi ei hadeiladu i'r brenin fynd i'r deml. Gwnaeth hyn i gyd o achos brenin Asyria.

19Mae gweddill hanes Ahas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 20Pan fuodd Ahas farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM